Canolfan Language Export Cyf
Telerau ac Amodau Busnes ar gyfer Cyfeirio Staff
1. Telerau ac Amodau Busnes yw'r rhain rhwng Canolfan Language
Export Cyf, y Cwmni fel y'i gelwir o hyn ymlaen, a'r Cyflogwr,
y Cwsmer fel y'i gelwir o hyn ymlaen, a'r Gweithiwr, yr Ymgeisydd
fel y'i gelwir o hyn ymlaen.
2. Trafodir pob busnes y mae'r Cwmni yn ei gyflawni dan yr
amodau a esbonnir o hyn ymlaen, a bydd pob amod yn gynwysedig
neu'n ymhlyg mewn unrhyw gytundeb rhwng y Cwmni, ei Gwsmeriaid
a'r Ymgeiswyr.
Os ceir gwrthdaro rhwng yr amodau hyn ac unrhyw delerau ac
amodau eraill, bydd y rhai hyn yn drech oni bai fod y Cwmni
wedi cytuno'n arbennig i'r gwrthwyneb yn ysgrifenedig.
3. Drwy fod y Cwsmer yn cyfweld unrhyw Ymgeisydd a gyflwynwyd
gan y Cwmni, tybir bod y Cwsmer yn derbyn ac yn cytuno â'r
amodau busnes hyn.
4. Ni chodir unrhyw dâl ar y Cwsmer am drefnu cyfweliad
gydag Ymgeisydd ac mae ein gwasanaeth yn gwbl rhad ac am ddim
i Ymgeiswyr.
5. Bydd y Cwsmer yn cael ei anfonebu am ffi gyfeirio ar ddyddiad
dechrau cyflogaeth unrhyw Ymgeisydd y cyflwynodd y Cwmni i'r
Cwsmer.
Cyfrifir y ffi gyfeirio yn unol â chyfraddau ffïoedd
y Cwmni, a rhaid talu TAW (os yn berthnasol) yn ychwanegol
at y ffi hon.
6. Rhaid i'r Cwsmer hysbysu'r Cwmni ar unwaith pan fydd ymgeisydd
a gyflwynwyd gan y Cwmni wedi ei benodi, a thalu'r ffi gyfeirio
cyn pen 28 diwrnod o ddyddiad yr anfoneb.
7. Bydd y Cwmni yn ymdrechu i sicrhau addasrwydd unrhyw Ymgeisydd
a gyflwynir i'r Cwsmer.
Rhaid i'r Cwsmer, er hynny, fodloni ei hun ynghylch addasrwydd
unrhyw Ymgeisydd a rhaid iddo olrhain unrhyw eirdaon a ddarperir
gan unrhyw Ymgeisydd a/neu'r Cwmni cyn penodi'r cyfryw Ymgeisydd.
Y Cwsmer a fydd yn gyfrifol am gael caniatadau gwaith ac
unrhyw ganiatadau eraill ac am drefnu archwiliadau meddygol
a/neu ymchwilio i hanes meddygol unrhyw Ymgeisydd.
8. Ni fydd y Cwmni yn gyfrifol, dan unrhyw amgylchiadau,
am unrhyw golled, difrod na threuliau y mae'r Cwsmer yn eu
dioddef neu'n mynd iddynt yn sgîl, na thrwy unrhyw gysylltiad
â chamau'r Cwmni i chwilio am Ymgeisydd i'r Cwsmer,
na thrwy fod y Cwsmer yn cyfeirio unrhyw Ymgeiswyr at y Cwsmer,
na thrwy fod y Cwsmer yn penodi unrhyw Ymgeisydd.
9. Os bydd y Cwsmer yn cyflwyno unrhyw Ymgeisydd, a gyflwynwyd
i'r Cwsmer gan y Cwmni, i berson, adran, cwmni neu gorfforaeth
arall, a bod hyn yn arwain at fod y person, yr adran, y cwmni
neu'r gorfforaeth honno yn penodi'r Ymgeisydd, rhaid i'r Cwsmer
dalu ffi gyfeirio i'r Cwmni yn unol ag Amod 5, oni bai fod
y penodiad yn digwydd dros flwyddyn ar ôl i'r Cwmni
gyfeirio'r Ymgeisydd at y Cwsmer.
10. Os bydd unrhyw Ymgeisydd yn terfynu a/neu os bydd y Cwsmer
yn terfynu'r penodiad cyn pen dau fis o'r dyddiad pryd y dechreuodd
y cyfryw ymgeisydd weithio i'r Cwsmer ac ar yr amod:-
(i) bod y Cwsmer yn hysbysu'r Cwmni yn ysgrifenedig bod y
penodiad wedi'i derfynu cyn pen saith diwrnod o hynny ac
(ii) nad yw'r Cwsmer nac unrhyw is-gwmni na chwmni cysylltiedig
â'r Cwsmer yn penodi'r Ymgeisydd cyn pen tri mis o ddyddiad
terfynu'r penodiad
yna bydd y Cwsmer yn cael ad-daliad o 50% o'r ffi gyfeirio
sy'n daladwy dan Amod 5 yma.
11. Os na chydymffurfir ag Amod 6 (oni chytunwyd yn wahanol
yn ysgrifenedig) bydd y Cwsmer yn fforffedu'r gyfradd Ad-daliad
dan Amod 10.
12. Mae'r Cwmni wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac mae'n fodlon
cynghori'r Cwsmer ynghylch arfer da yn y cyswllt hwn. Hysbysir
yr Ymgeiswyr o'u hawliau hefyd. Bydd yr awdurdodau perthnasol
yn cael eu hysbysu os treisir hawliau cyfle cyfartal.
13. Bydd y Cwsmer hefyd yn parchu cyfrinachedd ymgeiswyr.
Mae hyn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, gysylltu â'r
cyflogwyr cyfredol heb ganiatâd arbennig gan yr ymgeiswyr.
14. Bydd pob perthynas gontractyddol rhwng y Cwsmer a'r Cwmni
yn bersonol i'r Cwsmer a chaiff ei llywodraethu gan gyfraith
y DU, a bydd gan Lysoedd y DU awdurdodaeth yng nghyswllt hynny.
|