Darparwn ddau fath o wasanaethau cyfieithu, sef cyfieithu
ysgrifenedig a chyfieithu ar lafar.
Er mwyn bod yn gwbl glir wrth gyfathrebu – nid yn unig
i sicrhau eich bod yn dweud beth y bwriadwch ei ddweud, ond
hefyd fod eich delwedd yn cael ei phortreadu’n gywir
ym mhob cwr o’r byd.
Profiad
– rydym wedi darparu gwasanaethau cyfieithu
ysgrifenedig/ar lafar ers 1987. |
Cysylltiadau
– rydym wedi sefydlu rhwydwaith o gyfieithwyr
ysgrifenedig a chyfieithwyr llafar ar gyfer pob
iaith. |
Staff o
Safon – mae ein holl gyfieithwyr
ysgrifenedig a’n cyfieithwyr llafar yn mynd
drwy broses ddethol drylwyr; maent yn gweithio
i’w mamiaith ac maent yn arbenigwyr yn eu
maes gwaith penodol, boed hwn, er enghraifft,
yn faes cyfreithiol, technegol, meddygol neu wyddonol. |
Rheoli
Ansawdd – rydym yn monitro ein
holl waith cyfieithu ysgrifenedig a’r aseiniadau
cyfieithu ar lafar yn barhaus. |
Gwasanaeth
Achredig o Safon – Cymdeithas Cwmnïau
Cyfieithu, Buddsoddwr mewn Pobl ac Yswiriant Indemniad
Proffesiynol. |
Ymateb
Cyflym – gwasanaeth cyflym ar gyfer
gwaith brys. |
Gwasanaeth
Rheoli Prosiectau – ffordd o wneud
eich gwaith yn haws! Gadewch i ni reoli eich gwaith
gweinyddol gan arbed oriau o waith i chi’ch
hun. |
Safoni
– cyflwyniadau ar gyfer prosiectau amlieithog. |
Arbenigedd
Technegol – gallwn ddarparu testun
wedi’i gyfieithu ar unrhyw fformat, ee Word,
PowerPoint, Publisher, Pdf, HTML, EPS, ffeiliau
bas data. |
Cyfrinachedd
– gwneir yr holl waith cyfieithu gyda chyfrinachedd
llwyr. |
Gwasanaeth
Archif – rydym yn cadw’r
holl gyfieithiadau ar CD-ROM am 5 mlynedd fel
y gellir cyfeirio at ddogfennau neu ailafael ynddynt
os bydd copïau eraill wedi mynd ar goll.
|
|