Ansawdd
Rydym yn asiantaeth broffesiynol ac mae ansawdd y gwasanaeth
yn allweddol bwysig. Cynhelir y safonau ansawdd drwy ddethol
y cyfieithwyr ysgrifenedig a'r cyfieithwyr llafar yn ofalus
a thrwy fonitro eu perfformiad yn barhaus. Fel sefydliad a
gydnabyddir gan BmP (Buddsoddwr mewn Pobl) rydym wedi sefydlu
systemau i sicrhau y caiff ein rhwydwaith cyfieithwyr ysgrifenedig/llafar
eu dethol, eu harchwilio a'u monitro yn ofalus; mae ganddynt
oll gymwysterau proffesiynol.
Mae ansawdd ein gwasanaeth yn dibynnu nid yn unig ar ansawdd
y cyfieithiad ysgrifenedig, ond hefyd ar fodloni anghenion
ein cwsmeriaid o safbwynt cyflwyniad dogfennau a chadw at
amserlenni y cytunwyd arnynt.
|