Awgrymiadau a Phethau i'w Cofio wrth Drefnu eich Cyfieithiadau:
Cofiwch: Gall cyfieithu ysgrifenedig/ar
lafar fod yn ddrud; rydych yn defnyddio gwasanaethau
pobl broffesiynol sgilgar iawn. Mae'n bwysig eich bod
yn ymwybodol o'r costau hyn cyn masnachu yn rhyngwladol
a'ch bod yn cynnwys y costau yn eich cyllideb.
Gwnewch fersiwn terfynol o'ch testun cyn dechrau'r broses
gyfieithu ysgrifenedig. Bydd addasu'r testun yn sicr o
ychwanegu costau, amser ac anghysonderau posib.
Byddwch yn realistig o safbwynt eich amserlenni. Mae'n
cymryd amser i gyfieithu testun, meddyliwch am faint o amser
a gymerasoch chi i'w ysgrifennu yn y lle cyntaf.
Mae lluniau yn siarad cyfrolau! Gall defnyddio delweddau/diagramau
yn ddoeth fod yn effeithiol iawn gyda darllenwyr rhyngwladol.
Bydd yna lai o eiriau i'w cyfieithu ac, o'r herwydd, bydd
eich costau'n llai.
Dywedwch wrthym ni ar gyfer beth y caiff y cyfieithiad
ysgrifenedig ei ddefnyddio, fel y gellir addasu'r arddull/y
dewis eiriau yn unol â hynny; drwy wneud hyn, bydd y
cyfieithiad yn cael yr effaith orau bosib ar y gynulleidfa
benodol honno.