Rhoi Nodweddion Lleol i Wefannau a Meddalwedd
Mae bodolaeth y rhyngrwyd ac e-fasnach yn dod yn realiti
yn y byd busnes sydd ohoni, a dyma'r ffordd y bydd cwmnïau,
fwy a mwy, yn denu cwsmeriaid newydd ac yn cynnal busnes.
Bydd gwefannau amlieithog yn eich galluogi i wir harneisio
pwer y rhyngrwyd ac elwa ar rym marchnata byd-eang.
Mae gennym ni gyfieithwyr ysgrifenedig arbenigol a all gyfieithu
eich Gwefan yn syth o'r ffynhonnell (os oes raid); neu, gellir
darparu'r cynnwys yn electronig neu fel copi caled. Sut bynnag
y darperir y cynnwys, bydd nodweddion lleol yn cael eu cynnwys
yn y cyfieithiad er mwyn sicrhau ei fod yn addas i'r gynulleidfa
dan sylw.
I gael dyfynbris am gyfieithiad ysgrifenedig ar unwaith cliciwch
yma
|