Canolfan Language Export Cyf
Telerau ac Amodau Busnes - Gwasanaethau Cyfieithu
Yn yr amodau hyn, cyfeirir at Ganolfan Language Export fel
"Y Cwmni" a chyfeirir at y prynwr fel "Y Cwsmer".
Wrth gyflwyno testun i'w gyfieithu, mae'r Cwsmer yn cytuno
i dderbyn y darperir yr holl nwyddau a'r gwasanaethau gan
y Cwmni yn ddarostyngedig i'r Termau Busnes canlynol:
Sut y Bwriedir ei Ddefnyddio Rhaid i'r Cwsmer nodi'n
bendant sut y bwriedir defnyddio'r cyfieithiad ysgrifenedig,
sef pa un ai y'i bwriedir er gwybodaeth neu i'w gyhoeddi yn
y pendraw.
Oni wneir cais ysgrifenedig gan y Cwsmer, gwneir y cyfieithiad
ysgrifenedig er gwybodaeth a dealltwriaeth yn unig, ac mae'r
Cwmni yn ymrwymo i gyflenwi cyfieithiad o'r fath a fydd o
safon ddigon da at y diben hwnnw.
Os gofynnir am gyfieithiad ysgrifenedig i'w gyhoeddi, rhaid
i'r Cwsmer ymrwymo i sicrhau bod y cyfryw gyfieithiad yn cael
ei wirio a'i newid fel bydd angen gan asiant neu gyswllt tramor
y Cwsmer - rhywun a fydd yn gyfarwydd gyda'r termau technegol
neu fasnachol a ddefnyddir yn y wlad honno ar gyfer y cynnwys.
Dyfynbrisiau a'u Derbyn Rhoddir pob dyfynbris, yn amodol
ar gadarnhad gan y Cwmni, ar ôl derbyn archeb y Cwsmer
ac ni chwblheir unrhyw gontract nes rhoddir y cyfryw gadarnhad.
Mae pob archeb unigol, ar ôl ei derbyn, yn ffurfio contract
ar wahân.
Bydd unrhyw ddyfynbris ysgrifenedig am waith yn aros ar agor
i'w dderbyn am 30 diwrnod ar ôl ei anfon ac wedi hynny
bydd yn dod i ben oni nodwyd yn wahanol yn ysgrifenedig. Ni
fydd y Cwmni wedi'i rwymo drwy unrhyw ddyfynbris a roddir,
nac a dderbynnir, ar lafar.
Os caiff aseiniad ei ganslo, byddwn yn cadw 10% o'r ffi net
at ddibenion gweinyddu, os dechreuwyd y cyfieithiad ysgrifenedig
eisoes, yna caiff swm am y gwaith a wnaed ei ychwanegu at
y ffi o 10%.
Cyflwyno gwaith Mae'r amser y mae'r Cwmni yn ei nodi,
boed hynny yn ysgrifenedig neu ar lafar, yn amcangyfrif dilys
a bydd y Cwmni yn ymdrechu hyd eithaf ei allu i lynu wrtho,
ond ni all y Cwmni warantu'r amseroedd hyn, ac ni ellir dal
y Cwmni yn gyfrifol os cyflwynir y gwaith yn hwyr. Ni ellir
tybio, dan unrhyw amgylchiadau, fod yr oedi yn dor-contract,
ac ni fydd gan y Cwsmer hawl i drin y contract fel pe gwrthodwyd
ei anrhydeddu oherwydd yr oedi.
Atebolrwydd Cyfieithwyr proffesiynol yn unig y mae'r
Cwmni'n eu defnyddio, a thra gwneir pob ymdrech i sicrhau
bod y cyfieithiad mor gywir â phosib, ni roddir unrhyw
sicrwydd ynghylch hynny, ac ni ellir dal y Cwmni yn atebol
am unrhyw golled na difrod canlyniadol a achosir drwy unrhyw
anghywirdeb neu ddehongliad gwahanol oni bai fod y gwall cymaint
fel na fyddai'n bosib i unrhyw gyfieithydd rhesymol gymwys
fod wedi gwneud y gwall hwnnw. Sut bynnag, ni fydd atebolrwydd
y Cwmni, mewn unrhyw achos yn fwy na gwerth yr anfoneb am
gost y gwasanaethau.
Telerau Talu Mae pob cyfrif yn daladwy cyn pen 28
diwrnod o ddyddiad yr Anfoneb.
Hawlfraint Eiddo'r Cwmni yw hawlfraint y cyfieithiad
ysgrifenedig ac ni thybir ei fod wedi ei drosglwyddo i'r Cwsmer
nes bydd y Cwmni wedi derbyn y taliad llawn ar gyfer y cyfieithiad.
Y Gyfraith Lywodraethol Bydd pob perthynas gontractyddol
rhwng y Cwsmer a'r Cwmni yn bersonol i'r Cwsmer a chaiff ei
llywodraethu gan gyfraith y DU, a bydd gan Llysoedd y DU awdurdodaeth
yng nghyswllt hynny.
Gorfodaeth Ni fydd y Cwmni yn atebol am unrhyw fethiant
ym mherfformiad unrhyw rwymedigaethau dan y contract hwn os
y'i hachosir gan ffactorau sydd y tu allan i'w reolaeth.
|